Croeso i Glwb Camera Caernarfon

Mae aelodaeth o’r clwb yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth beth bynnag fo lefel eu gallu, boed hynny yn ddechrau ymgodymu â ‘compact’ digidol neu fod yn awyddus i gystadlu ar lefel leol, cenedlaethol neu ryngwladol.Y peth pwysicaf yw bod aelodau yn cael boddhad o dynnu lluniau ac edrych arnynt.

Mae cynnwys y rhaglen yn amrywio o sgyrsiau gan siaradwyr gwâdd, edrych ar luniau o arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol, cystadlaethau o fewn y clwb ac yn erbyn clybiau eraill i weithdai lle ceir cymorth  ac arweiniad a chyfle i ddangos eich gwaith mewn awrgylch gefnogol ymysg ffrindiau.

Yn ystod misoedd yr haf trefnir teithiau lleol gan y clwb i fannau diddorol i ffotograffwyr.

Mae’r Clwb yn cyfarfod bob nos Lun am 7.30 yn y Llyfrgell, Caernarfon o ganol Medi hyd at ddiwedd Mawrth.

Cliciwch ar y map isod i ddarganfod y man cyfarfod ac hefyd i gael map ar gyfer printio.

 

Huw Williams Awyr Goch ar Padarn. Red sky on Padarn
Ron Williams Lone Tree
Caernarfon Map
Web Design
Clwb Camera CAERNARFON Camera Club